Beth rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â newid hinsawdd yng Nghymru

Defnydd tir yng Nghymru
Defnydd tir yng Nghymru
Gallwn chwarae ein rhan yn gwrthwneud dirywiaid natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd trwy newid y ffordd ry’n ni’n defnyddio ein tir yng Nghymru. Mae cefnogi ffermwyr i weithio mewn modd sy’n gyfeillgar i natur yn hanfodol i sicrhau ein dyfodol. Mae’n holl bwysig galluogi ffermydd i wynebu tywydd eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd fel sychder neu lifogydd ac felly ein gallu i gynhyrchu bwyd.
Dyma pan ry’n ni’n galw am Wlad ein Dyfodol lle mae pobl a natur yn ffynnu.

Moroedd Cymru
Moroedd Cymru
Mae moroedd Cymru’n amgylchynu 43% o Gymru ac maent yn gartref i doreth o fywyd morol pwysig, ond mae ein moroedd yn cael eu bygythio gan lygredd, gweithgaredd anghynaladwy dynol a newid hinsawdd, ac mae’n rhaid i ni weithredu nawr.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru ar rai o’r atebion, i weld budd ar gyfer natur a phobl.

Y System Fwyd
Y System Fwyd
Mae’r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru yn cael effaith fawr ar goedwigoedd y byd a bywyd gwyllt angenrheidiol. Mae angen i ni leihau ein effaith ar y byd gan ddod o hyd i gynnyrch nad ydynt yn creu datgoedwigo dramor.
Rydym yn galw ar Gymru i fod yn genedl rhydd o ddatgoedwigo a gofyn i Lywodraeth Cymru i addo i hyn trwy gefnogi ffermwyr Cymru i beidio mewnforio bwyd anifeiliaid sy’n cael ei gysylltu â datgoedwigo a gwarchod byd natur dramor.
Gan ei wneud yn ofynol i’r gadwyn gyflenwi i beidio cynnwys datgoedwigo ym mholisi caffael Cymru, gall hyn fod yn realiti.