RYDYM YN GALW AM BECYN O FESURAU I DDELIO Â'R ARGYFWNG NATUR YNG NGHYMRU.
Dywed ein hadroddiad diweddaraf y bydd angen i Lywodraeth Cymru gynyddu gwariant ar yr amgylchedd yn sylweddol i gwrdd ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Mae ‘Argyfwng Natur Cymru: argymhellion ar gyfer ymateb brys ar unwaith’ yn nodi nifer o bolisïau i Lywodraeth Cymru eu mabwysiadu, a fyddai’n adeiladu ar ei gweithredoedd presennol.
ARGYFWNG NATUR A HINSAWDD
ARGYFWNG NATUR A HINSAWDD
Yn ystod y misoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ag argyfwng natur, tra hefyd yn nodi arian ychwanegol ar gyfer gwariant amgylcheddol yn y gyllideb. Mae hyn wedi cael croeso cryf gennym.
Wrth wneud hynny, cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cronfeydd ychwanegol hyn fel ‘blaendal’.
Rydym yn galw am gryfhau'r datganiad hwnnw gydag ymrwymiad i gynyddu buddsoddiad yn yr amgylchedd i 5% o gyfanswm gwariant blynyddol Llywodraeth Cymru dros y cyllidebau nesaf.
Mae angen gweithredu ar frys i ddelio â cholled rhywogaethau a chynefinoedd, a chynnydd stormydd a llifogydd sy'n bygwth cymunedau Cymru.
DYWED ALEXANDER PHILLIPS, SWYDDOG POLISI BIOAMRYWIAETH WWF CYMRU:
DYWED ALEXANDER PHILLIPS, SWYDDOG POLISI BIOAMRYWIAETH WWF CYMRU:
“Mae Cymru yn wynebu argyfwng natur sydd angen gweithrediad ar y cyd ar frys.
“Mae angen natur arnom er mwyn ein hiechyd, ein lles a'n heconomi - felly mae'r argyfwng natur yn haeddu ymateb effeithiol. Bydd dyfodol o afonydd yn llawn pysgod; tirweddau o briddoedd iach; coetiroedd sy'n cloi nwyon tŷ gwydr; a pharciau trefol llawn blodau gwyllt a phryfed o fudd i bob un ohonom. ”
NATUR CYMRU DAN FYGYTHIAD
NATUR CYMRU DAN FYGYTHIAD
Mae tystiolaeth ddiweddar yn tanlinellu'r angen i weithredu. Datgelodd Adroddiad Cyflwr Natur 2019 fod 666 o rywogaethau dan fygythiad o ddifodiant yng Nghymru, ac o’r 3902 o rywogaethau a aseswyd, mae 73 eisoes wedi’u colli.
Mae rhywogaethau eiconig fel gwiwerod coch a'r llygod dŵr, a oedd unwaith yn gyffredin yng Nghymru, bellach wedi'u cyfyngu i ychydig o safleoedd ac o dan wir fygythiad o ddifodiant.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adrodd nad oes un o systemau naturiol Cymru - o'n harfordiroedd i fynyddoedd - yn ddigon iach i wynebu bygythiadau fel newid hinsawdd.
Mae dosbarthiad a niferoedd bywyd gwyllt yn arwydd cryf o iechyd ehangach ecosystemau Cymru ac yn rhybudd amlwg bod angen gweithrediad sylweddol.
MYND I'R AFAEL A'R ARGYFWNG NATUR
MYND I'R AFAEL A'R ARGYFWNG NATUR
Mae ein hadroddiad newydd yn cynnig awgrymiadau ar sut y gall Llywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r argyfwng natur. Mae'n cynnig defnyddio dulliau arloesol o adfer natur, gwella cydweithrediad a rhannu gwybodaeth.
Mae'r adroddiad yn nodi 10 cam sy'n nodweddu'r dull hwn, a fyddai'n gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag achosion colled natur.
YNGHYLCH Y POLISÏAU A CHYNIGWYD, RYDYM YN ARGYMELL BOD LLYWODRAETH CYMRU YN:
YNGHYLCH Y POLISÏAU A CHYNIGWYD, RYDYM YN ARGYMELL BOD LLYWODRAETH CYMRU YN:
- Ymrwymo i gynyddu ei wariant blynyddol ar gymhelli a chefnogi adferiad natur a thaclo newid hinsawdd, i 5% o gyfanswm y gyllideb.
- Cyflwyno cystadleuaeth gyhoeddus ar gyfer prosiectau peilot sy'n defnyddio datrysiadau ar sail natur i adfer bioamrywiaeth.
- Diddymu strwythurau diwydiannol segur a phroblematig fel coredau, argaeau a chylfatiau o afonydd i hybu bywyd gwyllt a mynd i'r afael â llifogydd.
- Grymuso cymunedau i reoli tir sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus ar gyfer prosiectau sy'n defnyddio datrysiadau ar sail natur i adfer bywyd gwyllt ac ecosystemau
- Ymrwymo i ddod â digwyddiadau o lygredd amaethyddol y gellir eu hosgoi i ben, gan weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu atebion.
- Ymgorffori'r meddylfryd diweddaraf ar y cysylltiadau rhwng natur a lles yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru.
Rydym hefyd yn galw am fwy o arloesi, hyfforddiant i swyddogion cyhoeddus, cynlluniau cyllido, a mwy o gyfranogiad cymunedol mewn sut i reolir tir.