Skip to main content

Gwlad Ein Dyfodol

Sut i greu dyfodol lle mae pobl a natur yn ffynnu.

Cefnogwch ein hymgyrch

Bydd y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf yn hollbwysig i’r gwaith o greu Cymru sefydlog ac iach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a’n hamddiffyn ni rhag y rhannau gwaethaf o’r argyfwng natur a hinsawdd. 

Yn 2024, cytunodd y Senedd yn unfryd i gefnogi’r gwaith o greu Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd sy’n rhoi anghenion pobl, natur a’r hinsawdd wrth galon unrhyw weithredu yn y dyfodol.

Mae’r cynllun yn hollbwysig oherwydd amaethyddiaeth anghynaliadwy yw prif sbardun colli natur, ac mae Cymru’n un o’r gwledydd mwyaf prin o natur yn y byd, lle mae un ym mhob chwe rhywogaeth a asesir mewn perygl difodiant.

Aelod staff Tyddyn Teg yn pigo llysiau yn y cae o flaen y tŷ

Camau mwy cynaliadwy, sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd a natur

Yn ogystal, mae effeithiau newid hinsawdd eisoes yn taro ffermwyr yn eu pocedi, a thywydd gwael eithafol fel sychder a llifogydd yn costio degau o filiynau o bunnoedd i ffermwyr bob blwyddyn.

Heb gefnogaeth a ariennir gan drethdalwyr, mae dyfodol natur a ffermio dan fygythiad.

Safwn gyda’r diwydiant ffermio yng Nghymru a’r ymdrechion sydd ar y gweill i wneud y sector yn fwy cynaliadwy trwy geisio cynhyrchu bwyd tra’n ymladd newid hinsawdd ac adfer natur. Ni ddylai ffermwyr ysgwyddo’r baich o symud at weithredoedd mwy cynaliadwy sy’n ystyriol o’r hinsawdd a natur heb gymorth. 

Wildflower meadow

Pecyn cryf o gymorth

Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod haenau Dewisol a Chydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n weithredol ochr yn ochr â’r haen Gyffredinol ar ddiwrnod lansio’r cynllun yn 2026, i wobrwyo ffermwyr am uwch weithredoedd dros natur a’r hinsawdd.

Mae llawer o gefnogaeth i ffermwyr Cymru ymysg y cyhoedd o hyd ac mae WWF yn sefyll ochr yn ochr â’r ffermwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig pecyn cryf o gefnogaeth a fydd yn galluogi i gymunedau a chynhyrchiant bwyd cynaliadwy ffynnu ochr yn ochr â byd natur.

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei dylanwad i sicrhau bod y cannoedd o filiynau o bunnoedd sy’n cael eu buddsoddi yn helpu i adfywio ein byd. 

Liz on farmland close to the coast, Nantlyd farm.

“MAE HYN YN YMWNEUD Â GADAEL AR ÔL RYWBETH GWELL NA’R HYN Y NAETHON NI GANFOD YN Y LLE CYNTAF”

Liz Findlay, o fferm Nantclyd, yw un or ffermwyr o’n hadroddiad Gwlad Ein Dyfodol.

Mae hi’n ffermwr cenhedlaeth gyntaf sydd, dros 30 mlynedd, wedi datblygu busnes fferm gymysg gynaliadwy sy’n gweithio mewn cytgord â byd natur.

Dywed Liz: “Dim ond ceidwad y tir ydw i. I mi, mae’n ymwneud â gadael ar ôl rywbeth gwell na’r hyn y naethon ni ganfod yn y lle cyntaf … rhywbeth a fydd yn bwydo cenedlaethau’r dyfodol… Mae’n ymwneud â’r plant a’r dyfodol.” 

Sheep graze in a field near the coast on Nantclyd farm.

GWLAD EIN DYFODOL – FFERMWYR CYMRU’N ARWAIN Y FFORDD

Mae ffermio wrth wraidd sut rydym yn defnyddio tir ar draws bron i 90% o dirwedd Gymru. 

Felly, mae cefnogi ffermwyr i ddilyn arferion sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur yn hollbwysig i ddiogelu ein dyfodol a’n gallu i gynhyrchu bwyd. 

Datgelodd arolwg diweddar gan WWF Cymru: 

  • Fod 96% o drigolion cefn gwlad Cymru yn cytuno bod gan ffermwyr Cymru ran bwysig i’w chwarae wrth warchod byd natur 
  • Fod 88% yn cytuno bod gan ffermwyr rôl bwysig wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd 
  • Fod 60% o gefn gwlad Cymru yn cytuno mai dim ond os yw ffermwyr yn gwneud newidiadau i warchod natur a hinsawdd y dylen nhw dderbyn cymorth ariannol gan y llywodraeth.

Cliciwch ar enwau’r ffermydd ar ben y dudalen hon i ddarganfod mwy am storïau'r ffermwyr a’u siwrne.

Field of flowers

Potensial ffermio amaethecoleg

Yng Nghymru, nid oes yr un o’n hecosystemau naturiol – o’r arfordir i’r mynyddoedd – yn cael eu hystyried yn ddigon iach i wynebu bygythiadau fel newid yr hinsawdd.

Rydyn ni'n un o'r gwledydd lle mae natur wedi dirywio mwyaf ar y blaned.

Mae gan y Ddeddf a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy'r potensial i gynnig system newydd o daliadau amaethyddol lle mae amaeth-ecoleg yn ganolog; gan wella systemau bwyd a ffermio, cefnogi ffermio adfywiol, a rhoi pobl - ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a dinasyddion - wrth wraidd atebion.

Mewn partneriaeth â mudiad Gweithwyr Tir a Synnwyr Bwyd Cymru mae ein hadroddiad astudiaethau achos yn edrych ar botensial ffermio amaethecoleg, y manteision a ddaw yn eu sgil, a’r argymhellion polisi yn seiliedig ar brofiadau’r ffermwyr.

Darllenwch mwy am y chwe fferm amrywiol o Gymru yn yr adroddiad Gwlad Ein Dyfodol isod a gwyliwch y fideos.

The family at Rest Farm, both parents and two children, walk through the field.

argymhellion

Dychmygwch Wlad Ein Dyfodol lle rydym yn adfer natur, yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn sicrhau bwyd iach, cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae tystiolaeth o’n hachosion achos yn arwain at bum argymhelliad: 

  • Gwobrwyo arferion a chanlyniadau amaeth-ecolegol yn ariannol yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach 
  • Cefnogi cadwyni cyflenwi o'r fferm i'r fforc 
  • Gwobrwyo ffermwyr am gysylltu ag ysgolion a theuluoedd incwm isel 
  • Parhau i ddatblygu cefnogaeth ar gyfer garddwriaethol 
  • Parhau â chyngor ffermio amaeth-ecolegol a hyfforddiant.

 Darllenwch yr adroddiad am fanylion llawn yr argymhellion.

Beth yw Deddf Amaeth (Cymru) a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy? 

Bydd Deddf Amaeth Cymru yn llywio datblygiad Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn brif ffynhonnell cymorth y Llywodraeth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol. Yn dilyn trafodaeth hir, fe gafodd ei chymeradwyo gan y Senedd ym mis Mehefin 2023 a derbyn cydsyniad y Brenin ym mis Awst 2023 

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fel y nodir ar hyn o bryd, yn talu ffermwyr am reoli tir yn gynaliadwy ar eu ffermydd. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn darparu system ffermio sy’n addas ar gyfer byd natur a chenedlaethau’r dyfodol, mae WWF Cymru yn credu bod yn rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gyflawni rheoli tir cynaliadwy fel amcan craidd, cefnogi ffermwyr i drosglwyddo i arferion ffermio adfywiol, darparu amgylchedd carbon sero net cyfoethog, a chefnogi symudiad tuag at system amaeth-ecolegol o’r fferm i’r fforc. Os gallwn ni drefnu pethau’n iawn, bydd ffermwyr yn cael eu talu am ‘sut’ y maent yn cynhyrchu bwyd. Mewn geiriau eraill, rydym am i ffermwyr gael eu talu am arferion sy’n hybu cynaliadwyedd ac yn sicrhau canlyniadau fel: 

  • Dŵr glân 
  • Aer glân 
  • Priddoedd iach 
  • Mwy o orchudd coed 
  • Corsydd mawn wedi'u hadfer 
  • Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr 
  • Gwell cynefinoedd i fywyd gwyllt 
  • Mwy o fioamrywiaeth 
  • A mwy! 

Mae WWF Cymru yn credu y bydd hyn nid yn unig yn gwella’r amgylchedd ond hefyd yn gweithio i wella proffidioldeb a chynhyrchiant ffermydd trwy leihau costau mewnbynnau a chynnig ffynonellau newydd o incwm. Mae WWF Cymru wedi archwilio sut gallai hyn edrych mewn cyfres o astudiaethau achos ffermio yng Nghymru, sef straeon Gwlad Ein Dyfodol

Beth rydyn yn feddwl pan fyddwn ni’n dweud ein bod yn wynebu argyfwng natur?

Rydym yn profi colled sylweddol o natur a achosir gennym ni fel pobl. Rydyn ni i gyd yn dibynnu ar natur am ein bwyd, aer, dŵr, ynni a defnyddiau crai. Mae natur a bioamrywiaeth yn gwneud bywyd yn bosibl, yn darparu buddion iechyd a chymdeithasol ac yn gyrru ein heconomi. 

Ers 1970, mae pwysau ar dirweddau a moroeddd amrywiol Cymru wedi arwain at golledion ac enillion i fioamrywiaeth. Fodd bynnag, mae adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 yn dangos bod bywyd gwyllt Cymru, ar gyfartaledd, wedi prinhau yn ystod y degawdau diwethaf. Yng Nghymru, datgelodd yr adroddiad fod un o bob chwe rhywogaeth yn wynebu difodiant. Mae ymchwil gan Buglife, er enghraifft, wedi canfod bod y doreth o bryfed sy’n hedfan yng Nghymru, y mae cymaint o fywyd gwyllt yn dibynnu arnynt, wedi gostwng 55% mewn llai nag 20 mlynedd. Yn y cyfamser, mae dwy ran o dair o afonydd yn methu â chyflawni statws ecolegol da o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. 

Beth sydd a wnelo hyn â ffermwyr a ffermio?

Mae’r system amaethyddol yn un o brif resymau pam ein bod ni’n colli  bioamrywiaeth yn y DU (fel y gwelir yn yr Adroddiad Sefyllfa Byd Natur, 2019) ac mae tir fferm yn cyfrif am bron i 90% o dir Cymru. Mae amaethyddiaeth yn cyfrannu 15% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru, llawer ohono’n fethan o dda byw, ac mae allyriadau amaethyddol wedi codi dros y degawd diwethaf. Yn fyd-eang, roedd angen ardal gyfwerth â 40% o faint Cymru i dyfu mewnforion Cymreig o goco, palmwydd, cig eidion, lledr, rwber naturiol, soya, pren, mwydion a phapur. Mae 30% o’r tir a ddefnyddir i dyfu mewnforion nwyddau o Gymru mewn gwledydd sydd wedi’u categoreiddio’n risg uchel neu uchel iawn ar gyfer datgoedwigo a cholli cynefinoedd. Mae llawer o’r rhain yn nwyddau amaethyddol a bwyd, fel y 190,000 tunnell o soya y flwyddyn sy’n cael ei fewnforio’n bennaf i Gymru ar gyfer porthiant da byw. Gweler ein Hadroddiad Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang am ragor o wybodaeth.

Gall ffermwyr fod yn rhan bwysig o’r ateb i’r argyfyngau ond nid yw’r system cymorth amaethyddol bresennol yn annog ac yn cefnogi ffermwyr yn effeithiol i wneud newidiadau i gefnogi byd natur a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. 

Beth yw barn pobl Cymru wledig am hyn?

Y llynedd cynhaliodd WWF arolwg barn yn y Gymru Wledig. Naethon ni ddarganfod fod pobl ar draws Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru’n cefnogi newidiadau mawr yn y ffordd y caiff ffermwyr Cymru eu hariannu. 

Datgelodd yr arolwg o 1,000 o ymatebwyr a gynhaliwyd gan Opinion Research Services (ORS), fod 96% o drigolion cefn gwlad Cymru yn cytuno bod gan ffermwyr Cymru ran bwysig i’w chwarae wrth ddiogelu byd natur ac mae 88% yn cytuno bod gan ffermwyr ran bwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r newid yr hinsawdd. 

Ac eto dim ond traean o’r trigolion (34%) sy’n cytuno bod ffermwyr eisoes yn gwneud digon dros fyd natur, ac mae’r mwyafrif (60%) yn cytuno mai dim ond os yw ffermwyr yn gwneud newidiadau i warchod natur a’r hinsawdd y dylid rhoi cymorth ariannol gan y llywodraeth. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r taliadau presennol ar sail ardal. Mae mwy am hyn yma

Ydy hi’n wir y bydd yn rhaid i ffermwyr blannu o leiaf 10% o’u ffermydd â choed o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy?

O dan y cynlluniau presennol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, byddai’n rhaid i ffermydd sy’n ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ymrwymo fel arfer i gyrraedd 10% o orchudd coed ar y fferm o fewn pum mlynedd. Ond mae fferm gyffredin yng Nghymru eisoes yn cynnwys tua 7% o goed1. Byddai'r coed hynn yn cyfrif tuag at y 10% ac ar ben hynny, mae ardaloedd na ellir eu plannu fel corsydd mawn neu ardaloedd sydd wedi'u gorchuddio â chraig wedi'u heithrio o'r gofyniad hwn. Bydd rheolau arbennig hefyd ar gyfer tenantiaid y mae eu tenantiaethau yn atal plannu coed.

Mae Comisiwn y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi datgan fod plannu coed yn y mannau cywir yn un o’r camau gweithredu sy’n angenrheidiol i gyrraedd niwtraliaeth garbon erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y ‘llwybr cytbwys’ a nodir gan y Comisiwn, mae angen i Gymru weld newid sylweddol o ran plannu coed i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Er mwyn cyrraedd targedau’r Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd, mae angen i Gymru blannu tua 5,000 hectar y flwyddyn. Yn nhymor plannu 2022-23, dim ond 1,190 hectar2 o goetir a blannwyd, dim ond 23% o’r hyn sydd ei angen.

Gan fod tua 90% o dir Cymru yn dir amaeth, gallai’r gofyniad plannu coed o fewn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gynnig y newid sylweddol sydd ei angen i gyflawni’r targedau hyn.  O’u plannu yn y mannau cywir, gall coed fod yn ased sylweddol i’r fferm, gan ddarparu cysgod i dda byw o’r gwynt a’r haul, amddiffyn y pridd rhag erydiad, cynyddu bioddiogelwch a lleihau perygl llifogydd. Gallant hefyd ddarparu cynefin i bryfed peillio hanfodol a gwneud defnydd cynhyrchiol o ardaloedd o'r fferm sydd o werth amaethyddol cyfyngedig.

Wedi dweud hynny, ni fydd yn rhaid i ffermwyr ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Eu dewis nhw yw hyn, er ei bod hi’n debygol y bydd y rhai sy’n dewis peidio yn gweld y byddan nhw’n dal i gael eu rhwymo gan y safonau gofynnol er mwyn osgoi llygredd dŵr ac allyriadau annerbyniol o uchel o nitradau ac amonia.

1. Yn ôl Adroddiad Ystadegau Coedwigaeth 2023 Forest Research, roedd 124,000 ha o goetir fferm yng Nghymru yn 2021. Mae tua 1,600,000 ha o dir fferm yng Nghymru.

2. Yn ôl Adroddiad Ystadegau Coedwigaeth Dros Dro 2023 Forest Research. 

Beth ydym yn ei feddwl pan rydyn ni’n dweud ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd?

Mae ein planed wedi cynhesu 1ºC dros y ganrif ddiwethaf. Mae newid yn yr hinsawdd yn gwneud llanast ar ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd, ac yn peryglu bywydau a chartrefi pobl. Os bydd allyriadau’n parhau i godi ar y cyfraddau presennol, ymhen rhyw ddegawd fe fydd cynhesu o 1.5°C yn anochel fyddwn ni’n wynebu chwalfa yn yr hinsawdd. Byddai canlyniadau peidio â mynd i'r afael â newid hinsawdd, ar lefel fyd-eang a lleol, yn enbyd. Mae Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig, Llywodraeth Cymru a llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cydnabod mai’r hyn sy’n ein hwynebu yw argyfwng.