Elfyn Davies, Fferm Glancynin
Elfyn Davies, Fferm Glancynin
Mae Elfyn Davies, gyda’i wraig Rhian, yn gyfrifol am fferm 160 erw Glancynin ar gyrion pentref San Clêr, Sir Gâr. Mae hi’n un o ffermydd Pasture for Life, ac yn fferm odro organig, ardystiedig.
Mae hi wedi’i henwi ar ôl afon Cynin, sy’n llifo gerllaw’r fferm i lawr i’r môr, heibio i dŷ cwch enwog Dylan Thomas ryw 4 milltir i ffwrdd yn Nhalacharn.
‘Mae modd gwneud pethau o hyd gyda ffermydd bach’
Gwell gennych wylio na darllen? Sgroliwch lawr i weld fideo.
Y daith
Y daith
Roedd gan Elfyn gefndir ym myd ffermio ond dilynodd yrfa yn y byd peirianneg cyn dychwelyd i ffermio 25 mlynedd yn ôl ac yntau bron yn 50 oed. Roedd Elfyn a Rhian eisiau byw mewn lle braf, ond roedden nhw hefyd yn awyddus i greu cynefin ffyniannus i fywyd gwyllt. Dechreuon nhw ffermio drwy ddibynnu ar blaleiddiaid a gwrtaith synthetig sy’n niweidiol i fyd natur, ond pan sylwon nhw nad oedd hynny’n gweithio iddyn nhw, symudon nhw at ddulliau organig sy’n cyd-fynd â byd natur. Maen nhw wedi cymryd camau breision yn eu blaenau ers hynny. Mae Glancynin bellach yn hafan i fywyd gwyllt yn ogystal ag yn fferm odro lwyddiannus sy’n cynhyrchu ac yn gwerthu cynnyrch llaeth drwy bartneriaethau â busnesau lleol a’r gymuned ehangach.
Wrth wneud hynny, maen nhw hefyd wedi creu gwell amgylchedd i’w da byw. Mae’r gwartheg yn iach ac yn fodlon eu byd gyda digon o gysgod, porfeydd llawn perlysiau, a gwrychoedd y gallan bori arnyn nhw yn unol â’u hanghenion deietgol.
‘Mae’r gwrychoedd yn rhoi cysgod i’r gwartheg. Waeth ble mae’r haul, mae ganddyn nhw gysgod. Maen nhw’n bwyta’r dail, yr helyg, yr ynn, y cyll, yr eiddew a llau’r offeiriaid, sy’n eu cadw nhw’n iach’.
‘Mae lle i ni i gyd i fyw gyda’n gilydd’
Elfyn Davies
Natur
Natur
Mae’r fferm yn un o ffermydd Pasture for Life ac mae hi wedi’i hardystio gan Gymdeithas y Pridd. Mae Elfyn yn teimlo’n frwd ynghylch sut gall byd natur gyfrannu at ffermio. Tail buarth yw’r unig wrtaith sy’n cael ei ddefnyddio ar y pridd, ac mae’r gwartheg yn byw ar borfa heb ddim dibyniaeth ar borthiant soi wedi’i fewnforio i ychwanegu at eu deiet.
Dydy’r tir ddim wedi’i aredig ers y 1990au. Mae hynny’n golygu bod iechyd y pridd yn well gan ei fod yn cadw’i strwythur naturiol, ei ddeunydd organig, ei ficrobau a’i organebau sy’n helpu i’w wneud yn ffrwythlon. Heb ei droi, mae modd cloi carbon yn y pridd hefyd. Gan weithio gyda byd natur drwy ddull amaeth-ecolegol, mae Elfyn yn gallu manteisio ar ffrwythlondeb naturiol y pridd, gan ehangu bioamrywiaeth a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yr un pryd.
Dim ond pan fyddan nhw tua 15-18 oed y bydd y gwrychoedd tal yn cael eu tocio, a hynny i greu sglodion pren a choed tân. Maen nhw’n rhoi cysgod i’r gwartheg a chynefin i fywyd gwyllt, sy’n doreithiog. Mae porfeydd hynafol wedi’u pori, y gwrychoedd, ynghyd â phyllau, dyfrffyrdd a pherllan yn creu cynefin i fywyd gwyllt fel brogaod, llyffantod, madfallod dŵr, gweision y neidr, mursennod, nadroedd y gwair, llwynogod, moch daear, ystlumod, chwilod y dom a phryfed eraill, tylluanod a bwncathod, ynghyd â nifer o adar eraill.
‘Rydyn ni wedi creu’r fferm roedden ni’i heisiau, nid fferm fel sydd gan bobl eraill...’
Yr Hinsawdd
Yr Hinsawdd
Mae sglodion pren yn cael eu cymysgu â thail gwartheg sy’n cael ei roi yn ôl ar y tir. Mae peidio ag aredig y tir yn golygu bod y carbon sydd wedi’i storio’n aros yn y tir. Yn ei dro, mae hynny’n golygu bod cyfuniad amrywiol o blanhigion gwreiddiau dwfn yno sy’n dal i allu cael dŵr hyd yn oed mewn sychder. Mae hyn yn golygu na wnaeth haf sych diweddar 2022 effeithio ar gynhyrchu silwair nac ar dorri’r borfa i greu bêls gwair.
‘Rwy’n creu gwell cnydau silwair na llawer o bobl eraill’
Yr unig borthiant y mae’r fferm yn ei brynu yw alffalffa a liwsérn organig, er mwyn denu’r gwartheg i mewn i gael eu godro. Y gweddill o’r amser, bydd y gwartheg naill ai’n pori yn y caeau neu’n bwyta silwair.
Bwyd, cymuned a ffordd o fyw
Bwyd, cymuned a ffordd o fyw
‘Mae creu bwyd i bobl leol yn bwysig iawn i mi’
Mae gan Lancynin wyth deg pump o wartheg Meuse Rhine Issel sy’n cynhyrchu tua 1000 litr o laeth y dydd. Mae hwnnw’n cael ei droi’n amrywiaeth o gynnyrch llaeth ar y fferm, gan gynnwys kefir, iogwrt meddal a chawsiau. Maen nhw’n cael eu marchnata’n lleol o dan y brand Sanclêr Organic. Mae llaeth hefyd yn cael ei ddanfon deirgwaith yr wythnos i Caws Cenarth i’w droi’n gaws.
Yn ogystal â chefnogi’r gymuned drwy roi ffynhonnell leol o gynnyrch llaeth, maen nhw’n creu gwaith yn lleol drwy groesawu pobl ifanc o’r pentref i weithio ar y fferm. Maen nhw ar hyn o bryd yn barod i drafod cyfleoedd datblygu drwy ryddhau ychydig o erwau o dir i bobl leol sydd â diddordeb mewn dechrau menter arddwriaeth fach.
Mae Elfyn a Rhian yn mwynhau bywyd heddychlon ar y fferm, lle maen nhw wedi dod o hyd i gydbwysedd rhwng ennill bywoliaeth, darparu ar gyfer y gymuned, a chreu hafan i fywyd gwyllt a byd natur.
‘Yn y bore pan fydda’ i’n mynd mas, rwy’n dod yn ôl yn llawer hapusach fy myd. Mae’r coed a chael fy amgylchynu gan goed yn fy nhawelu i a’r gwartheg.’