Skip to main content

Fferm Nantclyd - Storïau Gwlad Ein Dyfodol

Ffermwr cenhedlaeth gyntaf a hunan-ddechreuwr yng Ngheredigion.

Liz on farmland close to the coast, Nantlyd farm.

Liz, Fferm Nantclyd

Mae Liz yn ffermio mewn partneriaeth â’i mab Oliver yng Ngheredigion. Mae hi’n ffermwr cenhedlaeth-gyntaf ac wedi cychwyn ar ei liwt ei hun, a dros gyfnod o 30 mlynedd mae hi wedi datblygu busnes fferm gymysg llwyddiannus a chynaliadwy sy’n cyflenwi wyau, dofednod, ffrwythau a llysiau, grawn, a chig oen ac eidion.  

"Rydym wedi mabwysiadu arferion Biodynamig fel ffordd o ffermio’n gyfannol – mae’n ddull o ffermio nad yw’n dibynnu ar brynu mewnbynnau. Mi wnaethom ddechrau heb ddim ac mi oedd yn rhaid inni ofalu am y tir gystal ag y gallwn a gwelsom y gallem wneud hynny drwy ffermio’n fioddynamig."

The pond at Nantclyd farm, surrounded by trees and reeds.

Amrywiaeth

Mae’r fferm wedi’i hardystio fel un fioddynamig gan Demeter gan sicrhau eu bod yn anelu at iechyd a gwytnwch, tra’n rhoi maeth i’r pridd, gwarchod yr amgylchedd, parchu llesiant eu hanifeiliaid a chynhyrchu bwyd llawn maeth. Mae ganddynt ddau safle; Nantclyd, 30 erw ger Aberystwyth lle cedwir cywion ieir, a Ffrwdwenith Isaf, 55 erw ger Aberporth lle tyfir grawn a chodlysiau fel porthiant i anifeiliaid, ffrwythau a llysiau i’r farchnad leol, a hefyd gwartheg a defaid. Mae bioamrywiaeth yn cael ei annog fel rhan o’r dull o ffermio ac maent wedi ennill Gwobr Joan Loraine am Gadwraeth Natur a ffermio Organig yn 2002, a fu’n help iddynt i greu pwll ar gyfer bywyd gwyllt.

"Wrth i’r mentrau gynyddu ac amrywio daw’r cysylltiadau a’r buddiannau’n amlwg, o’r bywyd yn y pridd i gynhyrchiant cyffredinol y fferm."

Liz tends to the natural compost created on the farm.

natur

Maent yn ffermio mewn ffordd gyfannol, gan weithio â natur a’r nod yw bod yn system gaeedig i’r graddau posibl, sy’n golygu eu bod yn lleihau maint y mewnbynnau allanol ac yn cynhyrchu’r rhan fwyaf o’r hyn sydd ei angen arnynt ar y fferm. Nid ydynt yn defnyddio porthiant anifeiliaid wedi ei fewnforio fel soia, sy’n arwain at ddatgoedwigo mewn gwledydd tramor, maent yn hytrach yn bwydo grawn i’r ieir sydd wedi’i dyfu ar y fferm ac mae’r defaid a’r gwartheg yn cael porfa a dyfwyd yn eu caeau. Mae compost yn cael ei gynhyrchu ar y fferm sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i dyfu ffrwythau a llysiau.  

"Mae system ffermio gaeedig yn arwain at gydnerthedd ar y fferm, ac mae hynny’n help mawr inni."

Maent yn defnyddio peiriant compostio i wneud compost aerobig mewn rhesi hir a elwir yn ‘windrows’. Mae hyn yn helpu i gylchu’r maethynnau ar y fferm gan wneud gwell defnydd o dail y dofednod. Maent yn casglu cymaint o amrywiaeth â phosibl o gynhwysion at ei gilydd, i gyd o’r fferm a’u gosod yn haenau ar y rhesi - sglodion pren, gwastraff, tail dofednod, gwartheg, ceffylau, dail tafol, ysgall, danadl poethion a glaswellt. Mae’r rhes yn cael ei chymysgu a’i throi nes cyrraedd tymheredd o 65 gradd (mae hyn yn lladd pathogenau a hadau chwyn) a bydd wedyn yn cael ei droi eto rhwng pump a deg gwaith yn ystod ei oes. 

A tray of brown and white eggs from hens at Nantclyd farm.

gofalwyr y tir

“Dim ond gofalwr dros dro ar y tir ydw i - i mi'r nod yw gadael rhywbeth gwell na’r hyn cawsom ni... rhywbeth fydd yn bwydo cenedlaethau’r dyfodol... mae am y plant a’r dyfodol.”  

Tyfodd y busnes dofednod i gyfanswm o 1000 o ieir, er eu bod nawr wedi eu cwtogi i 600, gan eu bod yn credu mai dyna’r nifer mwyaf o ieir y gellir eu cadw ar y fferm heb i ormod o nitrogen grynhoi i effeithio ar yr ardal gyfagos. Maent yn cynhyrchu tua 200 dwsin o wyau sy’n cael eu gwerthu i siopau lleol a thu hwnt. Mae cig yr ieir hefyd yn cael ei werthu’n lleol.    

“Mae popeth yn newid felly rhaid bod yn hyblyg. Dyna pam yr ydym wedi arallgyfeirio ac yn gwerthu mwy’n uniongyrchol.” 

Liz pics produce from the farm, including squashes and carrots, with the help of a very young future farmer.

cymuned

Mae cig oen ac eidion sydd wedi’i fwydo’n gyfan gwbl ar borfa’n cael ei werthu mewn bocsys cig lleol yn ogystal â mewn siopau lleol yn Aberystwyth ac ar hyd ffordd arfordir Ceredigion. Mae ffrwythau a llysiau’n cael eu gwerthu wrth giât y fferm ac yn wythnosol ym marchnad ffermwyr Llandudoch. Eleni, tyfwyd gwenith Hen Gymro ac aeth i felinau blawd lleol i gael ei wneud yn flawd a bara.  

"Mae gwerthu’n uniongyrchol yn y marchnadoedd yn gyfle i siarad â phobl am ein ffordd o ffermio. Mae’n bwysig bod pobl yn deall am y bwyd rydym yn ei dyfu."

Sheep graze in a field near the coast on Nantclyd farm.

ffermio mewn argyfwng hinsawdd a natur

Mae rhan o dir Ffrwdwenith Isaf ger Aberporth yn cwympo i’r môr felly mae Liz ac Oliver yn ymwybodol iawn o effeithiau newid yn yr hinsawdd. Ers dechrau ffermio maent wedi plannu dros 3000 o goed o hadau maent hwy wedi’u casglu eu hunain. Maent yn credu bod coed yn chwarae rhan bwysig o adeiladu’r rhwydwaith o ffwng yn y pridd, sy’n help i feithrin ffrwythlondeb. Mae’r gorchudd coed yn Nantclyd erbyn hyn tua 20% ac mae adar yn ffynnu yno. Mae lleoliad arfordirol Ffrwdwenith Isaf yn gynefin i rywogaethau sy’n prinhau fel yr ehedydd ac mae’n fan hela pwysig i rywogaethau fel hebogiaid tramor.

"Mae gennym gwtieir, gwenoliaid, gwenoliaid y bondo, a phob math o adar bach yn y gwrychoedd, llyffantod a brogaod, llygod dŵr a llyg...mae pawb yma’n mwynhau’r lle.

"Os edrychwn ni ar natur, nid yw’n aros yn ei unfan nac wedi’i ddatgysylltu oddi wrth ran arall o’r cyfanwaith; mae’n gywrain ac yn ymateb bob amser i’r ysbardun diweddaraf; mae angen i ni fel pobl wrando ar hyn. Rwyf wedi dod i barchu fy fferm, ac i werthfawrogi ac edmygu popeth a wna."