Mae angen natur arnom
Mae angen natur arnom
Mae Cymru’n enwog am ei hamgylchedd naturiol hardd, ond o dan yr wyneb mae darlun gwahanol iawn. Mae Cymru’n un o’r gwledydd mwyaf prin o natur yn y byd ac mae cannoedd o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu.
Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, rhaid inni rhoi mesurau newydd, cryfach ar waith i warchod yr amgylchedd, yn hytrach na chaniatâi trefniadau gwannach sy’n gadael i natur ddioddef.
Beth allwn ni wneud?
Beth allwn ni wneud?
Mae'r ymgynghoriad nawr ar gau. Gwelwch fwy o wybodaeth isod.
Mae’r rhan fwyaf o’n deddfwriaeth amgylcheddol - a’r mecanweithiau sy’n ei gorfodi - ynghlwm wrth ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Hyd yn hyn mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gwarchod natur Cymru ar faterion o warchod rhywogaethau a gwella ansawdd aer, i lanhau ein moroedd a’n hafonydd.
Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, rhaid inni sicrhau bod gan yr amgylchedd lais ac nad yw’r deddfau a’r mecanweithiau gorfodi hyn yn cael eu lleihau. Mae arnom angen i Lywodraeth Cymru gadw a chryfhau’r mesurau gwarchod presennol trwy ymrwymo i:
- Sefydlu corff gwarchod cryf, annibynnol gydag adnoddau da i dderbyn ein cwynion a gweithredu arnynt pan nad yw ein llywodraeth a’n cyrff cyhoeddus yn gwneud digon i ddiogelu’r amgylchedd. Rhaid i’r corff gwarchod hwn hefyd fod â’r pŵer i gosbi drwgweithredu a’i gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddifrod amgylcheddol yn cael ei unioni.
- Cadw a chryfhau holl egwyddorion yr Undeb Ewropeaidd a’u hymgorffori yng nghyfraith Cymru er mwyn llywio datblygiad deddfau, polisïau a phenderfyniadau newydd.
Diolch am ymuno â ni i alw ar Lywodraeth Cymru i warchod ein hamgylchedd gwerthfawr i genedlaethau’r dyfodol trwy ymateb i ymgynghoriad Egwyddorion a Llywodraethu Amgylcheddol ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.