Hanes, manteision a dyfodol gwymon yng Nghymru.
Hanes, manteision a dyfodol gwymon yng Nghymru.
Wyddoch chi fod Dydd Bara Lawr Genedlaethol ar y 14eg o Ebrill? Rydym ni, WWF Cymru, yn dathlu gan edrych ar yr hanes, y manteision, a dyfodol gwymon yng Nghymru.
Mae Cymru yn wlad arfordirol, gyda llawer o’i allforion yn dod o’r môr, ac er ei fod yn llai cyffredin erbyn hyn, mi roedd gwymon yn rhan hanfodol o fwyd Cymreig ar un tro. Mae bara lawr, sy’n defnyddio gwymon lawr, yn ddanteithfwyd sy’n flasus yn gynnes neu’n oer, ac sy’n llawn maetholion. Mi roedd yn boblogaidd am flynyddoedd gan ei fod yn ffynhonnell dda o haearn ac ïodin, y ffordd berffaith o roi nerth i’r bobl leol.
coedwigoedd tanddwr
coedwigoedd tanddwr
Yn ogystal â’i holl fanteision iechyd, mae gwymon hefyd yn gallu ein helpu i daclo ein hargyfwng hinsawdd a natur yng Nghymru.
Mae coedwigoedd gwymon tanddwr yn gallu helpu cadw a chynyddu bioamrywiaeth gan greu cartrefi i fywyd môr, gan gynnwys pysgod ifanc, cwrel meddal, llygaid meheryn, draenogod môr, a chramenogion.
Mae gwymon hefyd yn amsugno carbon, hidlo llygredd, a lleihau asidedd y dŵr, sydd yn helpu molysgiaid i dyfu’n gynt. Mae’r coedwigoedd hyd yn oed yn gweithio fel tarian sy’n amddiffyn yr arfordir gan erydiad a llifogydd.
Mae’n bosib iawn i ffermio gwymon mewn ffordd gynaliadwy, ac mae hyn yn cefnogi creu system bwyd sy’n bwydo pobl, gwrthdroi colled natur, a thaclo newid hinsawdd.
Ffermio Môr Adfywiol
Ffermio Môr Adfywiol
Mae WWF wedi bod yn gweithio gyda Câr-y-Môr, fferm gwymon a physgod cregyn cymunedol yn Sir Benfro. Nid yw’r fferm yn defnyddio gwrtaith, plaladdwyr, neu dŵr croyw, ac mae eu gwymon yn cael ei ddefnyddio i greu amrywiaeth o gynnyrch, gan gynnwys cwrw a photiau planhigyn bioddiraddadwy.
Rydym hefyd yn gweithio gyda’r fferm Môr Adfywiol ger arfordir Tyddewi i fonitro’r effaith mae’r fferm yn cael ar yr amgylchedd morol a bioamrywiaeth, yn ogystal ag ymchwilio syniadau arloesol fel ychwanegu gwymon at fwyd anifeiliaid er mwyn lleihau methan gan wartheg.
Mae gwymon yn adnodd anhygoel sydd yn frodorol i’n harfordir ac sydd â hanes ac arwyddocâd diwylliannol yng Nghymru. Mae ffynhonnell bwyd cynaliadwy sy’n fudd i’r bobl a’r amgylchedd yn rhan hanfodol o greu dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru, ac mae gwymon yn gam cyntaf gwych yn y cyfeiriad iawn.
Os ydych eisiau dysgu mwy am y planhigyn anhygoel hwn, ewch at wefan Câr-y-Môr i ddysgu mwy am eu gwaith. Fe allwch hefyd edrych ar y wefan Dydd Bara Lawr Genedlaethol yma.