Un ym mhob chwe rhywogaeth Cymreig mewn perygl difodiant
Un ym mhob chwe rhywogaeth Cymreig mewn perygl difodiant
Mae angen priddoedd iach ac ecosystemau fel coedwigoedd ac afonydd arnom i oroesi. I roi inni ddŵr glân, aer glân, bwyd iach a chartrefi i rywogaethau fel gwenyn sy’n peillio cnydau.
Ond, mae natur yn dirywio gydag un ym mhob chwe rhywogaeth a asesir mewn perygl difodiant yng Nghymru. Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhoi inni gyfle i newid hyn – ond dim ond os yw’r cymorth mae’n ei gynnig yn ddigonol ac yn cael ei rhoi yn syth.
Rydym yn danfon neges frys at Huw Irranca-Davies AoS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn mynnu y caiff eich arian ei defnyddio mewn ffordd sy’n adfer natur, mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau, ffermwyr a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
Mae’r cyhoedd yng Nghymru’n cytuno
Mae’r cyhoedd yng Nghymru’n cytuno
Dywedodd ein harolwg o’r cyhoedd yng Nghymru (YouGov 2024) y dylai nodau’r Cynllun gynnwys Lleihau llygredd afonydd (90%), Gwella iechyd pridd (83%), Plannu mwy o goed (67%), Adfer mawndir a chynefinoedd lled-naturiol eraill e.e. dolydd a pherthi (69%).
Os ydych chi’n cytuno, dywedwch wrth Lywodraeth Cymru drwy lofnodi ein deiseb nawr.