Skip to main content

Mae moroedd arfordir Prydain yn gyfoeth o fywyd morol hynod a rhyfeddol. O gwrel gwych i falwod disglair, mae ein moroedd yn llawer mwy trofanol nag on ni’n sylweddoli! 

Dyma 10 rhywogaeth falle nad oeddech chi’n sylweddoli sy’n byw o amgylch ein arfordiroedd, a sut ry’n ni’n gweithio i sicrhau bod ganddyn nhw gartref iach a saff i ffynnu ynddi.  

Sut rydym yn gwarchod ein moroedd

Rydym yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i warchod ein moroedd, drwy sefydlu a rheoli rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig – sef ardaloedd o’r môr gyda chyfyngiadau ar eu defnydd (ar gyfer pysgota a thwristiaeth, er enghraifft). Mae’r ardaloedd yma yn darparu amddiffyniad angenrheidiol ar gyfer bywyd gwyllt morol gwerthfawr. 

Mae canran y moroedd sy’n cael eu gwarchod wedi treblu dros y pum mlynedd diwethaf, o 8% i 23%. Rydym wed ymgyrchu ers tro i amddiffyn y chwe Ardal Morol Gwarchodedig mawr (sy'n ardal deirgwaith maint Cymru) sydd nawr i gyd wedi’u cymeradwyo. Ond mae dal mwy i wneud. 

Rydym hefyd yn gweithio gyda chi i leihau defnydd plastig untro diangen, a lleihau ein hallyriadau carbon. 

Gyda’n gilydd, gallwn warchod ein moroedd a’n bywyd gwyllt gwerthfawr.