Fferm Slade
Fferm Slade
Mae Polly a Graeme yn ffermio darn hyfryd o dir lle mae caeau gwyrdd Bro Morgannwg yn cwrdd â’r arfordir garw. Maen nhw’n byw ac yn gweithio ar Fferm Slade gyda’u teulu ifanc, ac wedi bod yn rhedeg y fferm gymysg organig 800 erw ers dros 20 mlynedd.
Yn arglwyddiaethu uwch traeth Southerndown, mae’r fferm yn gartref i tua 150 o wartheg, 50 o foch, 500 o famogiaid ac 800 o ŵyn. Maent hefyd yn tyfu 200 erw o rawn ac erw o lysiau.
‘Mae gennym neges i’w chyfleu – y gallwn gynhyrchu bwyd maethlon o ansawdd uchel sy’n fuddiol i amgylchedd Cymru, a chysylltu pobl â’r llefydd mae eu bwyd wedi dod ohonynt.’
Polly a Graeme yw'r drydedd genhedlaeth i rentu'r fferm denant hon. Mae'r tir wedi cael ei ffermio ers o leiaf 600 mlynedd ac mae'r cwpl yn ymwybodol iawn mai dros dro y maent yn geidwaid arno; maent yn teimlo’n gryf fod ganddynt gyfrifoldeb i adael etifeddiaeth amgylcheddol gadarnhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
‘Rydyn ni’n credu mai ffermio’n organig yw’r unig ffordd synhwyrol o ffermio ar gyfer yr amgylchedd ac ar gyfer ansawdd y cynnyrch, ac rydym yn ffermio’r ffordd yr ydym yn gwneud fel bod yna etifeddiaeth i’r dyfodol.’
Gwell wylio na ddarllen? Mae fideo ar ddiwedd y dudalen.
Natur a Hinsawdd
Natur a Hinsawdd
Mae eu system ffermio yn seiliedig ar gynaliadwyedd. Nid ydynt yn ychwanegu mewnbynnau allanol megis gwrtaith nitrogen a phlaladdwyr i'w tir, ac maent yn bwydo eu hanifeiliaid â bwyd a gynhyrchir ar y fferm yn unig, yn hytrach na phrynu porthiant wedi'i fewnforio. Maent hefyd yn tyfu meillion yn eu glaswellt, sy'n sefydlogi nitrogen yn y pridd, ac yn gweithredu fel gwrtaith naturiol.
‘Dydyn ni ddim yn defnyddio unrhyw blaladdwyr na chwynladdwyr fel fferm organig, ac rydyn ni’n gweithio gydag arbenigwyr i ddatblygu cynefinoedd naturiol ar gyfer ein hadar ffermdir brodorol, blodau gwyllt a rhywogaethau anifeiliaid.’
Er mwyn annog adar, maen nhw'n hau'r rhan fwyaf o'u grawnfwydydd yn y gwanwyn ac yn ei gynaeafu yn yr hydref. Mae hyn wedi arwain at niferoedd mawr o ymwelwyr o adar sydd wedi’u cofrestru ar y ‘rhestr goch’ fel rhai sy’n prinhau’n sylweddol.
‘Mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn tyfu grawnfwydydd yn y gaeaf oherwydd ceir cnwd uwch, ond rydyn ni'n hau'r rhan fwyaf o'n rhai ni yn y gwanwyn gan ei fod yn golygu bod sofl yn y caeau i'r adar fwydo arno dros y gaeaf. Yn ein cyfrif adar diwethaf roeddem mor falch o weld dros 50 o freision melyn yn gaeafu yn un o’n hardaloedd bywyd gwyllt dynodedig.’
Mae dolydd wedi bod yn dirywio’n sylweddol ar draws y DU ers y 1930au ond mae Graeme a Polly yn gweithio i gynnal a rheoli dolydd ar eu fferm, ac mae ganddynt Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a dolydd blodau arbennig eraill.
‘Yn ogystal â’r clytwaith o wahanol gaeau, mae gennym hefyd laswelltiroedd a dolydd ac mae’r gymysgedd hon o wahanol fathau o ffermio yn cynyddu amrywiaeth, sy’n creu cynnydd mewn trychfilod bach, sy’n creu cynnydd mewn adar bach, sy’n creu cynnydd mewn adar mawr.’
Cymuned
Cymuned
Yn ogystal â thyfu grawn i fwydo'u da byw, mae Polly a Graeme hefyd yn tyfu'r gwenith hynafol Hen Gymro, sy'n mynd i'w felino'n lleol ac yna'n cael ei werthu i bobyddion. Maen nhw hefyd yn gwerthu gwenith trwy Organic Arable yn ogystal â cheirch a enillodd wobr ‘Ceirch uwd gorau’r DU’ White’s y llynedd.
Mae hyd at 20% o'u cig eidion, cig oen a chig dafad organig a 100% o'u porc yn cael eu gwerthu trwy eu siop fferm ar y safle yn ogystal ag mewn blychau cig a ddosberthir yn fisol i'r gymuned leol. Mae gweddill y cig oen a chig eidion yn cael ei gyflenwi i archfarchnad.
Maen nhw’n gwerthu eu llysiau trwy gynllun Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA), sy'n golygu eu bod yn gweithio gyda'r gymuned i ddarparu bagiau llysiau wythnosol ar gyfer y tymor tyfu.
‘Mae ein cynllun bagiau llysiau yn ffordd o ddod â’r tir, y gymuned a’r ffermwr ynghyd.’
Mae'r gymuned yn bwysig iawn i Fferm Slade ac maent yn annog cwsmeriaid sy'n gallu ei fforddio i dalu ychydig yn ychwanegol tuag at fagiau llysiau i bobl ar incwm is. Maen nhw’n gweithio gydag elusen leol sy'n dosbarthu'r bagiau llysiau hyn wrth gefnogi teuluoedd ifanc, gan ddangos iddynt sut i ddefnyddio'r llysiau. Y tymor tyfu diwethaf, darparwyd deg bag yr wythnos i bobl a allai fel arall wynebu rhwystrau rhag cael gafael ar gynnyrch ffres a chymryd rhan.
Fel ffordd arall o gysylltu â’r gymuned, mae Polly a Graeme yn cynnal ymweliadau fferm o bum ysgol gynradd yn y Barri gan roi cyfle i blant ddysgu am ffermio ac i ddarganfod mwy ynglŷn ag o ble y daw eu bwyd. Ymhlith pethau eraill, mae'r plant wedi dysgu am dail a phwysigrwydd planhigion codlysol ar gyfer sefydlogi nitrogen, yn ogystal â hwsmonaeth anifeiliaid.
‘Rydym wir yn ceisio ymgysylltu â phlant a’u cael i ddeall sut mae ffermio’n gweithio gan fod cymaint o ddatgysylltiad enfawr rhwng cymunedau a ffermio, ac rydym yn ceisio datrys hynny gydag ymweliadau â ffermydd.’