Beth yw hwnna?
Ry'n ni'n ymwybodol fod y cyfan yn gallu bod braidd yn ddryslyd, felly mae rhai esboniadau yma i helpu chi i ddeall gwahanol faterion fel ein bod ni’n gallu edrych ar ôl y blaned gyda’n gilydd.
Esboniad o’r Termau
Eisiau gwybod y gwahaniaeth rhwng Sero Net a Dalfa Net? Sut mae Amaethecolegol a ffermio adferol yn wahanol? Mae ein esboniad termau yma i helpu.
Amaethecoleg
Amaethecoleg: gwyddor ac arfer sy'n gwella systemau bwyd a ffermio, yn cefnogi ffermio adferol ac yn rhoi pobl - ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, dinasyddion - wrth wraidd datrysiadau.
Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Cynllun Ffermio Cynaliadwy: rhaglen fydd yn cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yn diffinio a gweinyddu taliadau o arian trethdalwyr i ffermwyr a rheolwyr tir yn gyfnewid am ganlyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol.
Bil/Deddf Amaethyddiaeth Cymru
Bil/Deddf Amaethyddiaeth Cymru: deddfwriaeth sylfaenol sydd i fod i basio trwy'r Senedd yn 2022 a fydd yn grymuso Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a dirwyn rhaglenni gwaddol i ben.
Ffermio adferol
Ffermio adferol: system o egwyddorion ac arferion ffermio sy'n ceisio ailsefydlu a gwella ecosystem gyfan y fferm, gan fynd i'r afael a newid hinsawdd ac adfer bioamrywiaeth, gyda'r amcan sylfaenol o wella ansawdd y pridd yn naturiol.
Gwasanaethau naturiol
Gwasanaethau naturiol: Y gwasanaethau mae natur yn eu darparu, fel bwyd, aer a dwr glan a phriddoedd iach. Gwasanaethau rheoleiddiol fel rheoleiddio llifogydd a sychder. Gwasanaethau diwylliannol fel buddion hamdden a buddion anfaterol eraill.
Datrysiadau wedi'u seilio ar natur
Datrysiadau wedi'u seilio ar natur: Mae datrysiadau wedi'u seilio ar natur i'r hinsawdd yn harneisio grym natur i leihau allyriadau nwyon ty gwydr a'n helpu i ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd. Maent yn ddatrysiadau lle mae pawb ar ei ennill sy'n cynnwys gwarchod, adfer a rheoli'n gynaliadwy ecosystemau er mwyn mynd i'r afael a heriau'r gymdeithas a hyrwyddo llesiant pobl.
Sero Net
Sero Net: y pwynt lle mai sero yw balans allyriadau carbon cenedlaethol. Mae Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd y pwynt hwn erbyn 2050. Bydd Cymru'n parhau i allyrru carbon, ond bydd yr un maint o garbon, neu fwy, yn cael ei atafaelu yn y byd naturiol.
Dalfa net
Dalfa net: Mae tir yn storio carbon ac yn ei allyrru. Mae Cymru'n ddalfa net ar hyn o bryd, sy'n golygu bod ein tir yn storio mwy o garbon nag y mae'n ei allyrru.
Llwybrau ar gyfer defnydd tir ac amaethyddiaeth
Llwybrau ar gyfer defnydd tir ac amaethyddiaeth: mae llwybr yn nodi'r gyfradd ddisgwyliedig o leihad mewn allyriadau mewn sector penodol dros amser. I bob pwrpas graff yw e sy'n dangos faint o allyriadau a ragamcanir ar gyfer pob blwyddyn hyd nes cyrraedd sero net.
Ôl-troed carbon
Ôl-troed carbon: cyfanswm effaith carbon cynnyrch neu wasanaeth penodol. Bydd hyn yn cynnwys faint o garbon sy'n cael ei allyrru wrth ei gynhyrchu.
Dalfeydd carbon glas
Dalfeydd carbon glas: cynefinoedd moral sy'n storio mwy o garbon nag y maent yn ei allyrru. Gall y rhain gynnwys cynefinoedd fel morwellt a gwymon.
Cyllideb Garbon 2 Sero Net Cymru
Cyllideb Garbon 2 Sero Net Cymru: Y cynllun lleihau carbon i Gymru 2021-2025, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyma'r ail gyllideb mae'r Llywodraeth wedi'i chynhyrchu yn dilyn Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016.
Cydweithfeydd Bwyd
Cydweithfeydd Bwyd: safle dosbarthu bwyd sy'n cael ei redeg ar sail nid-er-elw er mwyn galluogi pobl i gael bwyd da am brisiau fforddiadwy.
Cynefin toreithiog o garbon
Cynefin toreithiog o garbon: Cynefinoedd sy'n arbennig o effeithiol o ran storio carbon. Mae enghreifftiau'n cynnwys coetiroedd, mawndiroedd a morfa heli.