Casglu Lleisiau Ieuenctid
Ym mis Gorffennaf 2021 fe gyd-drefnom yr Uwchgynhadledd Hinsawdd a Natur Ieuenctid Cymru gyntaf - gan ymgysylltu â disgyblion a phobl ifanc ledled Cymru.
Rhoesom gyfle i'r dan 25 oed siarad yn uniongyrchol â Llywodraeth newydd Cymru a'u dal i gyfrif ar eu haddewidion cyn yr etholiad.
Roedd yr Uwchgynhadledd yn rhan o raglen ehangach o ymgysylltu ag ysgolion, colegau a phobl ifanc a gynhaliwyd mewn partneriaeth rhwng WWF Cymru, Maint Cymru, Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid a Chadw Cymru'n Daclus (Eco-Ysgolion).
Cyfrannodd syniadau a chwestiynau o'r sesiynau tuag at y Cynllun Gweithredu a gafodd ei drafod a'i benderfynu gan Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru.
Maniffesto Hinsawdd a Natur YCA ar gyfer Cymru
Sgroliwch i lawr i weld y Chwe Phwynt yn eu Cynllun Gweithredu.