Ein nod yw helpu i greu Cymru lle gall pobl a natur ffynnu, am genedlaethau i ddod. Bwyd – o’r hyn yr ydym yn ei dyfu, ei gynhyrchu a’i ddal i’r hyn a roddwn ar ein platiau – yw ein cysylltiad cryfaf â natur. Felly mae sicrhau bod y system fwyd yn galluogi pobl a’r blaned i ffynnu yn flaenoriaeth i WWF Cymru.
![Freshly harvested organic parsnips and carrots, Cardiff](/sites/default/files/styles/content_slide_image/public/2017-07/carrots_parsnips.jpg?h=119335f7&itok=3VtBSjmw)
Y sialens
Y sialens
Mae sut i gyflenwi bwyd iach, maethlon i bawb yn wyneb adnoddau sy’n prinhau a phoblogaeth sy’n tyfu, ac ar yr un pryd mynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli natur, yn her enfawr yn fyd-eang ac i Gymru.
Mae system fwyd gynaliadwy’n hanfodol i ddyfodol ein cenedl. Mae’n ganolog i’n hiechyd a’n llesiant, ein diwylliant, cymdeithas ac economi, ac yn rhan bwysig o’r broses o fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur a wynebwn.
Fodd bynnag, mae yna broblemau systemig yn y system fwyd yng Nghymru y mae angen mynd i’r afael â nhw ar frys. Ni all llawer o bobl yng Nghymru fforddio cael deiet iach. Mae’r system fwyd yn cael effeithiau negyddol ar yr amgylchedd, iechyd y cyhoedd a llesiant economaidd. Mae hyn yn llesteirio ein gallu i ffynnu fel cenedl yn awr ac yn y dyfodol.
Rydym wedi comisiynu’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd i lunio adroddiad i’n helpu ni i ddeall sut olwg allai fod ar system fwyd sy’n addas i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
![Butterfly](/sites/default/files/styles/content_slide_image/public/2018-07/Medium_WW135115.jpg?h=c3635fa2&itok=6CjUdORS)
Argymhellion yr adroddiad
Argymhellion yr adroddiad
Yn yr adroddiad, mae’r awduron yr Athro Terry Marsden a Dr Angelina Sanderson Bellamy o’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn cynnig gweledigaeth o sut olwg fyddai ar system fwyd yng Nghymru sy’n addas i genedlaethau’r dyfodol, a’r hyn mae ei angen i’w gwireddu. Eu casgliad yw bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi’r weledigaeth a’r ysgogiadau mae eu hangen i gyflawni trawsnewidiad arwyddocaol yn system fwyd Cymru.
Mae’r adroddiad yn argymell:
- Dylai Llywodraeth Cymru arwain y gwaith o ddatblygu strategaeth system fwyd i Gymru. Byddai’r strategaeth yn helpu i gysylltu’r gwahanol rannau o’r system fwyd at ei gilydd, yr holl ffordd o’r pridd i’r plât, a allai, yn ei dro, helpu i ysgogi system fwyd fwy integredig.
- Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn mandadu y gallai’r pum ffordd o weithio ynghyd ag ymagwedd integredig at fwyd gyfrannu at bob un o saith nod y Ddeddf.
- Fel rhan o’r strategaeth system fwyd newydd, dylai gweledigaeth fwyd newydd i Gymru ganolbwyntio ar ail-leoleiddio’r system fwyd, adfer cyfalaf amgylcheddol, cymdeithasol a dynol er mwyn cryfhau diogelwch bwyd a sicrhau mwy o werth yn lleol. Mae ail-gysylltu pobl â bwyd yn hanfodol er mwyn newid y system fwyd ac adeiladu dyfodol â phobl iach a phlaned iach.
- Dylai Cymru drawsnewid yn rhanbarth amaeth-ecolegol erbyn 2030. Dylai sector bwyd a ffermio Cymru adfywio ei sylfaen ecolegol, gan adfer natur er mwyn darparu’r nifer fawr o swyddogaethau a gwasanaethau mae ffermwyr a’r gymdeithas yn dibynnu arnynt.
- Bydd ffermio sy’n defnyddio’r egwyddorion amaeth-ecolegol hyn yn galw am becyn cynhwysfawr o hyfforddiant a sgiliau. Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r gwaith o sefydlu canolfannau hyfforddi rhanbarthol i sbarduno cydweithredu a chyfnewid gwybodaeth
- Mae angen ail-adeiladu seilweithiau bwyd er mwyn cysylltu cynhyrchwyr bwyd â phrynwyr mewn ffyrdd mwy amrywiol. Er mwyn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol ac ail-gydbwyso dosbarthiad pŵer, mae angen seilwaith mewn trefi ac yng nghefn gwlad er mwyn cysylltu cynhyrchwyr bwyd â phrynwyr.
- Gall caffael cyhoeddus lleol a rhanbarthol – er enghraifft, mewn ysgolion, ysbytai a swyddfeydd cynghorau - helpu i greu marchnadoedd ar gyfer busnesau bwyd lleol.
- Dylai Cymru goleddu a datblygu marchnadoedd bwyd a chadwyni cyflenwi digidol sy’n cysylltu prynwyr â chynhyrchwyr a hybiau bwyd.
- Dylai Comisiwn Bwyd Cymru newydd gael ei sefydlu i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r strategaeth system fwyd.
- Dylai Cymru greu Fframwaith Bwyd Cyffredinol Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod gan holl bobl Cymru yr hawl i gael bwyd iach.
CYD-GREU GWELEDIGAETH NEWYDD AR GYFER BWYD CYMRU, YN SEILIEDIG AR 10 THEMÂU CYDGYSYLLTIOL ALLWEDDOL
![](https://www.wwf.org.uk/sites/default/files/styles/full_image/public/2020-03/10%20Theme_Welsh.jpg?itok=e6Y0XEUn)
![](https://www.wwf.org.uk/sites/default/files/styles/full_image/public/2020-03/FG_Welsh.jpg?itok=QRhL_DuD)
![Wales food system](/sites/default/files/styles/content_slide_image/public/2020-03/sheep%20in%20field_Global%20Warming%20Images_WWF_5.jpg?h=8f654fbd&itok=f2xOj8Zr)
Y camau nesaf
Y camau nesaf
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd a natur a gallai’r system fwyd fod yn ganolog i’r broses o fynd i’r afael â hwn. Yma yng Nghymru, mae gennym gyfle i gynllunio system fwyd sy’n gweithio law yn llaw â natur ac sydd wir yn sicrhau llesiant i genedlaethau’r dyfodol.
Byddwn yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad ac yn ymchwilio ymhellach gyda rhanddeiliaid fel y gallwn ddechrau llunio system fwyd gynaliadwy yng Nghymru sy’n cyflawni dros bawb.