Skip to main content

Mae angen i Brif Weinidog nesaf Cymru ddangos arweiniad cryfach i wrthdroi prinhad natur, yn ôl sefydliadau amgylcheddol blaenllaw.

Yn ôl WWF Cymru, Ymddiriedolaethau Natur Cymru ac RSPB Cymru, mae’r flaenoriaeth isel a roddir i warchod ein hamgylchedd wedi arwain at golli natur – gan greu bygythiad i bobl ac i fywyd gwyllt.

Ers 1970, mae 56% o’r rhywogaethau yn y Deyrnas Unedig wedi prinhau. Mae dadansoddiadau’n dangos nad yw’r un o systemau naturiol Cymru – o lannau môr i fynyddoedd – wir yn ddigon iach i wynebu bygythiadau fel y newid yn yr hinsawdd, ac mae 1 ym mhob 14 o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu. A datgelodd adroddiad State of Nature 2016 mai Cymru yw un o’r gwledydd mwyaf prin o natur yn y byd.

Mae’r sefydliadau’n galw ar Brif Weinidog nesaf Cymru, sydd i fod i dyngu ei lw yn y Cynulliad y mis nesaf, i wneud natur Cymru ‘yn greiddiol i’r Llywodraeth’ a gosod targedau llym ar gyfer adfer natur. Mae angen hefyd i lywodraeth Prif Weinidog newydd Cymru gydnabod bod buddsoddi yn iechyd yr amgylchedd yn hanfodol i ffyniant cenedlaethau’r dyfodol.

Dywed y tri grŵp fod canlyniadau arolwg o’r cyhoedd yn cefnogi eu dadl.

Mae pôl, a gomisiynwyd gan WWF Cymru ac a gynhaliwyd gan nfpSynergy yn gynharach eleni5, yn dangos:

  • Mai dim ond 12% o’r bobl a holwyd oedd yn cytuno bod Llywodraeth Cymru’n gwneud digon ar hyn o bryd i warchod ac adfer natur, a bod 39% yn anghytuno.
  • Mai dim ond 20% oedd yn cytuno bod gweithredoedd Llywodraeth Cymru’n rhoi Cymru o flaen gweddill y Deyrnas Unedig yn nhermau gwarchod ac adfer natur, a bod 24% yn anghytuno.
  • Bod canran sylweddol fwy o bobl (35%) yn anghytuno y dylai twf economaidd yng Nghymru gael y brif flaenoriaeth hyd yn oed os bydd yr amgylchedd yn dioddef, na’r rhai oedd yn cytuno (26%).

Dywed y tri sefydliad, o gofio bod cyfreithiau cryf ar yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy eisoes yn bodoli, y gall olynydd Carwyn Jones ddangos arweiniad, ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, ond dim ond trwy wneud newidiadau gweladwy.

Maen nhw wedi nodi cyfres o ofynion i Brif Weinidog nesaf Cymru, gan gynnwys:

  • Targedau cyfreithiol ar gyfer adfer natur – gan ymgorffori’r rhain yn y gyfraith yn yr un modd â thargedau Cymru ar y newid yn yr hinsawdd
  • Ailwampio Cynllun Gweithredu Adfer Natur i warchod ac adfer safleoedd allweddol i fywyd gwyllt
  • Natur yn ein cymdogaethau – mynd i’r afael ag iechyd gwael ac anghydraddoldeb gyda thoeau gwyrdd, parciau newydd a mwy o fannau gwyrdd
  • Buddsoddi mwy mewn natur, gan gynnwys taliadau i ffermwyr a rheolwyr tir eraill am waith sy’n gwella’r amgylchedd, fel adfer dolydd a mawnogydd.

Dywedodd Rachel Sharp, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaethau Natur Cymru:

“Mae hwn yn gyfnod critigol i natur, mae pob diwrnod yn bwysig oherwydd maint a chyflymder y golled. Yn 2020 bydd Cymru’n peidio unwaith eto â chyflawni ei hymrwymiad rhyngwladol i atal colli bioamrywiaeth. Felly, dros y 3 blynedd nesaf, mae arnom ni angen gweledigaeth glir ac arweinyddiaeth bendant a fydd yn buddsoddi amser, ymdrech ac arian i greu dyfodol cynaliadwy. Dyfodol sy’n hapusach ac yn iachach gan fod natur yn rhoi inni le i ymatgyfnerthu o’n bywydau modern. Ond hefyd dyfodol mwy diogel, gan y gall natur ddal yn ôl llifogydd a glanhau ein haer a’n dŵr. Mae budd inni i gyd ac felly dylai ymrwymo i adfer natur fod yn flaenoriaeth i unrhyw un sy’n dod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.”

Ychwanegodd Sharon Thompson, Pennaeth Polisi a Dadleuaeth RSPB Cymru:

“Waeth beth fydd ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, mae gwarchod ac adfer natur yn dal i fod yn ofyniad hollbwysig. Mae’n hanfodol i Brif Weinidog newydd Cymru adeiladu ar y safonau amgylcheddol presennol yn hytrach na gadael iddyn nhw lithro ac iddo oruchwylio’r gwaith o sefydlu corff gwarchod amgylcheddol cryf ac annibynnol gydag adnoddau da i sicrhau y caiff yr egwyddorion a chyfreithiau hyn eu cynnal.”

Mae cadwraethwyr yn dweud bod cyflwr bregus natur Cymru’n rhan o argyfwng byd-eang. Datgelodd adroddiad diweddar Living Planet fod meintiau poblogaethau bywyd gwyllt wedi lleihau 60% yn fyd-eang rhwng 1970 a 20146. 

Meddai Anne Meikle, Cyfarwyddwr WWF Cymru:

“Os ydym ni eisiau i’n plant a’n hwyrion anadlu aer glân, gweld blodau gwyllt a gwenyn a bod â hinsawdd ddiogel, nawr yw’r adeg i weithredu. Mae angen i’r argyfwng byd-eang mae natur yn ei wynebu fod ar frig rhestr Prif Weinidog nesaf Cymru o bethau i’w gwneud, ac i gamau gweithredu gael eu cynyddu’n sylweddol. Rydym wedi pasio cyfreithiau amgylcheddol da yng Nghymru ond, fel mae canlyniadau’r arolwg o’r cyhoedd yn dangos, nid yw’r cyfreithiau hyn wedi cael eu trosi eto’n weithredu sydd wedi taro deuddeg gyda’r cyhoedd. Mae hyn er gwaethaf y potensial enfawr i Gymru fod yn arweinydd rhyngwladol o ran gwarchod ac adfer natur.”

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION:

  1. “Between 1970 and 2013, 56% of species declined, with 40% showing strong or moderate declines.”  https://www.rspb.org.uk/globalassets/downloads/documents/conservation-projects/state-of-nature/state-of-nature-uk-report-2016.pdf
  2. “Yn ôl adroddiad Llesiant Cymru, nid oes ecosystem yng Nghymru sy’n gwbl gydnerth. Mae SoNaRR yn amlygu’r ffaith y gallai hyn gyfyngu ar allu ecosystemau i ddarparu’r gwasanaethau a’r manteision y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt…” https://seneddymchwil.blog/2017/10/25/pa-mor-gydnerth-yw-cymru-canfyddiadau-adroddiad-llesiant-cymru/
  3. O’r 5,221 o rywogaethau yng Nghymru a aseswyd wrth ddefnyddio meini prawf y Rhestr Goch gyfoes, credir bod 354 (7%) mewn perygl o ddifodiant ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys 10% o blanhigion, 5% o infertebratau a 6% o ffyngau a chennau.  https://www.rspb.org.uk/globalassets/downloads/documents/conservation-p…
  4. Mae mesurau cenedlaethol y Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth (BII) yn ein darparu ag un dull o asesu hyd a lled diflaniad byd natur o ganlyniad i weithgareddau dynol sy’n mynd yn ôl ganrifoedd2. Awgrymir bod gwerthoedd BII o dan 90% yn dangos bod ecosystemau o bosib wedi cwympo’n is na’r pwynt lle gellir dibynnu arnyn nhw i ateb anghenion cymdeithas. Felly mae’r gwerth ar gyfer Cymru – 82.8% – yn peri pryder mawr; o’r 218 o wledydd y mae gwerthoedd BII wedi eu cyfrifo, daw Cymru 49 o’r gwaelod. Mae hyn yn gosod Cymru ym mhump isaf yr holl wledydd a ddadansoddwyd.  https://www.rspb.org.uk/globalassets/downloads/documents/conservation-projects/state-of-nature/stateofnature2016_wales_WELSH.pdf
  5. Ffynhonnell: Celtic Charity Awareness Monitor, Mai-Mehefin 18, nfpSynergy, Sylfaen: 1,000 o oedolion 16+, Cymru
  6. Living Planet Report 2018: https://www.wwf.org.uk/updates/living-planet-report-2018