Skip to main content

Achubwch natur, afonydd, tir a chymunedau Cymru

Anfonwch neges frys at Huw Irranca-Davies MS yn mynnu dyfodol cynaliadwy i gymunedau, ffermwyr a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

A water vole (Arvicola amphibius) stands on a branch floating in wetlands at Gwent Wildlife Trust’s Magor Marsh Nature Reserve, Monmouthshire, Wales, UK.  Water voles are classed as endangered in England and critically endangered in Wales, and were reintroduced into the Gwent Levels, where they have been under threat from proposed extensions to the M4 motorway.

Un ym mhob chwe rhywogaeth Cymreig mewn perygl difodiant

Mae angen priddoedd iach ac ecosystemau fel coedwigoedd ac afonydd arnom i oroesi. I roi inni ddŵr glân, aer glân, bwyd iach a chartrefi i rywogaethau fel gwenyn sy’n peillio cnydau.

Ond, mae natur yn dirywio gydag un ym mhob chwe rhywogaeth a asesir mewn perygl difodiant yng Nghymru. Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhoi inni gyfle i newid hyn – ond dim ond os yw’r cymorth mae’n ei gynnig yn ddigonol ac yn cael ei rhoi yn syth.

Rydym yn danfon neges frys at Huw Irranca-Davies AoS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn mynnu y caiff eich arian ei defnyddio mewn ffordd sy’n adfer natur, mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau, ffermwyr a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

Aelod staff Tyddyn Teg yn pigo llysiau yn y cae o flaen y tŷ

Mae’r cyhoedd yng Nghymru’n cytuno

Dywedodd ein harolwg o’r cyhoedd yng Nghymru (YouGov 2024) y dylai nodau’r Cynllun gynnwys Lleihau llygredd afonydd (90%), Gwella iechyd pridd (83%), Plannu mwy o goed (67%), Adfer mawndir a chynefinoedd lled-naturiol eraill e.e. dolydd a pherthi (69%).

Os ydych chi’n cytuno, dywedwch wrth Lywodraeth Cymru drwy lofnodi ein deiseb nawr.

Achubwch natur, afonydd, tir a chymunedau Cymru

Anfonwch neges frys at Huw Irranca-Davies AoS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn mynnu y caiff eich arian ei defnyddio mewn ffordd sy’n adfer natur, mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau, ffermwyr a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

Byddwn yn rhoi’r ddeiseb, gan gynnwys eich enw a’ch etholaeth, i Lywodraeth Cymru ar eich rhan.

 

Rhowch Eich Manylion

Oedran

 


 

Cadw mewn cyswllt

 

Cofrestrwch i dderbyn gwybodaeth am yr ymgyrch hon, ein gwaith cadwraethol a sut arall allwch chi helpu megis ymgyrchu, codi arian a digwyddiadau. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.

Ie plîs, hoffwn glywed gennych chi dros y ffôn:

Chi sy’n rheoli. Os hoffech newid sut rydyn ni’n cysylltu â chi yn nes ymlaen, ewch i wwf.org.uk/change-contact, ffoniwch 01483 426333 neu ebostiwch supportercare@wwf.org.uk.

Byddwn yn cadw eich manylion personol yn ddiogel ac ni fyddwn yn eu rhannu ag unrhyw sefydliadau eraill at bwrpas marchnata. Am fanylion llawn gweler ein Polisi Preifatrwydd.