
Pam ei fod yn bwysig
Pam ei fod yn bwysig
Mae treulio amser ym myd natur yn cael effaith gadarnhaol ar eich lles meddyliol. Mae natur mor bwerus, mae edrych arno’n ddigon i'n hadfer ni.
Cawn gymaint o fuddion o natur, ond ambell waith, mae angen ein help arno.
Mae WWF Cymru nawr yn derbyn ceisiadau am Grantiau Cymunedol o hyd at £1,000 am brosiectau sy’n uno pobl a natur.

Pa fath o brisiectau
Pa fath o brisiectau
Mae cryfder yn dod o amrywiaeth. Hoffwn gael syniadau o bob cornel o Gymru!
Eleni rydym yn annog ceisiadau am brosiectau a gweithgareddau gyda ffocws ar:
- Gweithgareddau i hybu a chefnogi eich bioamrywiaeth leol.
- Gweithgareddau sy'n gwella mynediad i natur.
- Prosiectau sy’n gweithio gyda natur i gefnogi iechyd meddyliol a llesiant.
Gallai'r rhain fod ar ffurf gweithredu gymunedol, digwyddiad neu weithdai. Byddwch yn greadigol!

Sut i wneud cais
Sut i wneud cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen syml isod gan esbonio:
- Beth fyddech chi'n ei wneud gyda'r arian.
- Sut byddech chi'n ei wneud.
- Dadansoddiad manwl ac eitemedig o'r costau.
- Beth allai'r effaith leol/newid cadarnhaol fod. Ystyriwch hefyd sut y gallech chi ehangu'r effaith hon trwy rannu'r stori gyda'r cyfryngau neu wahodd eich gwleidydd/seleb lleol.
Y dyddiad cau terfynol am y gronfa fydd 13eg Ebrill 2025 am 23:59.
Anfonwch e-bost at cymru@wwf.org.uk os oes angen cymorth pellach.
Y telerau
Y telerau
Uchafswm y grant fydd £1,000. Nid oes isafswm.
Dylai’r gweithgareddau cychwyn yn ystod gwanwyn/haf 2025.
Bydd angen diweddariadau rheolaidd ar WWF Cymru ar eich prosiect, a gwerthusiad byr ar ôl y digwyddiad. Trwy fethu neud hyn, mae’n bosib ni fydd y grŵp yn gallu ceisio am y grantiau yma yn y dyfod
Os yn llwyddiannus, bydd telerau ac amodau ychwanegol yn berthnasol.