Grantiau cymunedol WWF Cymru
Nawr ar agor.
Eleni, rydym wedi lansio ein grantiau cymunedol ar noson Awr Ddaear - i gefnogi grwpiau cymunedol i fynd tu hwnt i'r awr ag i gymryd rhan yn yr Wythnos Werdd Fawr.
Anogir grwpiau cymunedol sydd â phrosiect neu weithgaredd sy'n canolbwyntio ar ddod â phobl, natur a'r blaned at ei gilydd i wneud cais am grantiau o hyd at £1,000.
Rydym yn rhedeg dyddiad cau symudol er mwyn gwneud penderfyniadau, felly mae'n werth rhoi eich cais mewn yn gynnar.
DYDDIAD CAU TERFYNOL AR GYFER CEISIADAU – 23:59, Dydd Sul 28 Ebrill 2024.
Awr Ddaear Cymru
Awr Ddaear Cymru
BETH YW AWR DDAEAR?
Dyma’r foment y mae miliynau o bobl yn cysylltu ag eraill ac yn diffodd eu goleuadau i ddangos eu bod yn poeni am ddyfodol ein planed.
Mae gan bawb ran i'w chwarae. Yng Nghymru rydym yn gwybod bod gweithrediadau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr ac, ar y cyd, gallwn greu newid.
Rhowch awr am y Ddaear eleni.
AWR DDAEAR YN Y CARTREF
AWR DDAEAR YN Y CARTREF
P'un a yw'n diffodd eich goleuadau, yn diffodd eich ffôn am awr neu'n treulio amser gyda'ch trigolion - mae Awr Ddaear yn amser i ailgysylltu â'r hyn sy'n bwysig.
Ymunwch â'r sgwrs ar-lein
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun! Mae miliynau o bobl eraill yn diffodd am Awr Ddaear ar draws y byd - ymunwch â'r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol i gael ysbrydoliaeth a rhannwch yr hyn rydych chi'n gwneud. #EarthHour #AwrDdaear
Ymunwch yn greadigol
Nid oes rhaid i Awr Ddaear olygu bod mewn tywyllwch llwyr! Fe allech chi greu llusern neu byped yna dod â nhw'n fyw yn ystod yr awr gan ddefnyddio fflach lamp neu olau cannwyll.
Ymunwch ar y cyd
Defnyddiwch yr awr i siarad â'ch ffrindiau a theulu am y pethau sy'n bwysig i chi.
Os oes angen cyngor, ebostiwch Cymru@wwf.org.uk
CELF STRYD AWR DDAEAR
CELF STRYD AWR DDAEAR
Mae dal yn bosib gweld ein prosiect celf stryd Awr Ddaear o 2021!
Ynghyd a Bardd Plant Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Peaceful Progress, crëwyd y murluniau gyda geiriau plant ysgol leol, mewn tri lleoliad ar draws Cymru - Treorci, Aberteifi a Rhyl.
Os welwch, cofiwch dynnu llun a'i rannu gyda #AwrDdaear!