Gweithredwch am eich byd
Mae ein byd dan fygythiad fel erioed o'r blaen. Ond mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi methu cyfleoedd hanfodol i wneud cynnydd. Bydd ein hymrwymiadau ar gyfer 2030 ar y gorwel yn ystod tymor Senedd 2026
Dyma ein cyfle olaf i weithredu. Mae Cymru’n haeddu arweinyddiaeth sy’n cyflawni, nid yn oedi. Mae’n amser inni adfywio ein tir, afonydd a moroedd – dros natur, dros bobl, a dros genedlaethau’r dyfodol.
Ymunwch â mudiad o bobl sy'n galw am newid.
Yn digwydd yn eich byd
BETH RYDYM YN GWNEUD
Mae natur yn hanfodol. Mae'n darparu ein system cefnogi bywyd. Ond mae o dan fygythiad fel erioed o'r blaen.
Felly yn WWF, rydym yn ymladd i adfer cynefinoedd a rhywogaethau ffyniannus. I wneud hynny, rydym yn mynd i'r afael â phrif achosion dirywiad natur - yn enwedig y system fwyd a newid hinsawdd. Ac rydym yn ysbrydoli mudiad byd-eang o bobl a fydd yn helpu i sicrhau bod adfer natur yn ganolog i'r holl benderfyniadau a wnawn yn ein bywydau bob dydd - i’w wneud yn annerbyniol yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd i ddiraddio adnoddau naturiol gwerthfawr ein planed .